Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (6) v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) |
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud) |
3 Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol (5 munud) NDM4733 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Offerynnau
Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel
y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried
unrhyw faterion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth, ar
wahân i’r swyddogaethau angenrheidiol yn ôl Rheol
Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes. |
4 Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Offerynnau Statudol (5 munud) NNDM4738 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 1. Julie James (Llafur), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig), Simon Thomas (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Offerynnau Statudol; a 2. David Melding yn Gadeirydd y Pwyllgor Offerynnau
Statudol. |
5 Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad (5 munud)
NDM4732 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.
|
6 Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Deisebau (5 munud) NNDM4737 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 1. Christine Chapman (Llafur), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan Jenkins (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau; a 2. Christine Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor
Deisebau. |
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4735 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn “Gofal gydag Urddas?”
Mae copi o Gofal gydag Urddas ar gael yn: http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/dignity-and-respect/Hospital-review.aspx
|
8 Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ar ôl ‘tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad drafod y rhaglen’. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion
canlyniadau y gellir eu mesur, er mwyn dangos y cynnydd a wneir
wrth roi ei rhaglen gyflenwi ar waith. |
9 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys: (a) Cyflwyno Parthau Menter, a (b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.
Mae copi o ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 1: ceisio datganoli pwerau dros dreth gorfforaeth ac amrywio treth er mwyn galluogi’r llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol economi Cymru; parhau i weithredu Rhaglen Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd. Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn: Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i neilltuo symiau canlyniadol Fformiwla Barnett, a fydd yn deillio o greu Parthau Menter yn Lloegr, i’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Sir Fynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ddyfodol Rhaglen Adnewyddu’r Economi. Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn: |
10 Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011